Yn ôl Mynegai Byd-eang WIN-Gallup International ar bwnc crefyddoldeb ac anffyddiaeth yn 2012,mae 79% o drigolion Wsbecistan a gymerodd ran yn yr arolwg yn ystyried eu hunain yn grefyddol a 18% yn nodi eu bod naill ai ddim yn grefyddol neu'n anffyddwyr argyhoeddedig, a 3% wedi dewis peidio ymateb.[1]
Ar 1 Mehefin 2010 roedd 2 225 o sefydliadau crefyddol wedi eu cofrestru yn y wlad, o 16 o grefyddau neu enwadau gwahanol:[2]
Eglwysi, ysgolion crefyddol, a chanolfannau crefyddol | Nifer | |
---|---|---|
1 | Islam | 2 050 |
2 | Eglwys Gristnogol Corea | 52 |
3 | Eglwys Uniongred Rwsia | 37 |
4 | Bedyddwyr | 23 |
5 | Pentecostiaeth | 21 |
6 | Adfentyddion y Seithfed Dydd | 10 |
7 | Iddewiaeth | 8 |
8 | Bahá'í | 6 |
9 | Yr Eglwys Gatholig Rufeinig | 5 |
10 | Yr Eglwys Apostolaidd Newydd | 4 |
11 | Lwtheriaeth | 2 |
12 | Eglwys Apostolaidd Armenia | 2 |
13 | Tystion Jehofa | 1 |
14 | Hare Crishna | 1 |
15 | Bwdhaeth | 1 |
16 | Eglwys Llais Duw | 1 |
17 | Cymdeithas y Beibl[3] | 1 |